Mae eich safonau wedi bod yn uchel erioed. Oni ddylai mwy o ddysgwyr elwa arnynt?
Diolch am ddangos diddordeb yn ein swyddi gwag ar gyfer Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi (AEM).
![]() |
Ynglŷn ag Estyn |
Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ac mae ganddo genhadaeth amrywiol a phwysig: cyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru trwy wella safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant. Rydym yn darparu gwasanaeth arolygu a chyngor o ansawdd uchel i Lywodraeth Cynulliad Cymru a dinasyddion Cymru. |
![]() |
Ein Gwerthoedd |
• Sicrhau mai dysgwyr a dinasyddion sydd wrth wraidd ein gwaith; |
![]() |
Ynglŷn â’r Rôl |
Fel un o’n Harolygwyr, byddwch yn teithio ledled Cymru yn cynnig cyngor ar sut gall darparwyr addysg a hyfforddiant ddatblygu a gwella. Byddwch wedyn yn adrodd ar y safonau a gyflawnir gan y dysgwyr, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant a ddarperir ac effeithiolrwydd arweinyddiaeth a rheolaeth y darparwr. Byddwch yn gweithio fel arbenigwr yn eich pwnc, eich agwedd neu’ch sector eich hun, ac yn fwy cyffredinol ar draws ystod o sectorau. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddylanwadu ar bolisïau cenedlaethol trwy ddarparu cyngor arbenigol ac i hyrwyddo gwelliant trwy ledaenu’r arfer orau a welwn ar draws y system. Yn y pen draw, bydd y cyngor a’r argymhellion yr ydych yn eu rhoi yn dylanwadu ar ddyfodol dysgu ledled y wlad. Mae hon yn rôl ddylanwadol mewn addysg a hyfforddiant, felly rydym yn chwilio’n benodol am ymgeiswyr sy’n dangos y trylwyredd a’r ymroddiad i wella safonau i ddysgwyr. |
![]() |
Beth rydym yn chwilio amdano |
Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am rolau ar gyfer y rhai hynny sydd â hanes da mewn addysg, yn ddelfrydol mewn rôl reolaethol neu arbenigol mewn un sector neu fwy, a’r gallu i ddefnyddio gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd mewn addysg, polisi a gwella ansawdd mewn o leiaf un o’r meysydd canlynol:
• Mathemateg (cynradd a/neu uwchradd) Bydd profiad arolygu o fantais, ond nid yw’n hanfodol. Ar gyfer o leiaf un o’r swyddi hyn, mae’n hanfodol ein bod yn penodi rhywun sy’n gallu defnyddio eu medrau cyfathrebu yn effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ceir mwy o fanylion am y rôl, gan gynnwys disgrifiad o’r rôl a manyleb yr unigolyn, ar y daflen ‘Gwybodaeth i Ymgeiswyr’ sydd ar gael i’w lawrlwytho isod. |
Gweithio i Estyn
Rydym yn ymdrechu am ragoriaeth nid yn unig yn ein gweithgareddau arolygu ond hefyd fel cyflogwr.
Mae Estyn wedi ymrwymo’n gadarn i fod yn gyflogwr dewis. Ein nod yw cyflawni hyn trwy werthfawrogi, gwrando ar staff, a’u hannog i ddatblygu eu medrau a’u doniau. Mae Estyn yn cydnabod bod pob unigolyn yn dod â medrau a phrofiad gwahanol gyda nhw pan fyddant yn gweithio i ni. Fel sefydliad, rydym yn cefnogi a chroesawu amrywiaeth ac yn gwerthfawrogi’r gwahaniaethau hyn.
![]() |
Buddion |
Mae gyrfa gydag Estyn yn cynnig pensiwn rhagorol, ac ystod o fuddion, gan gynnwys:
|
![]() |
Cyflog |
Yr ystod cyflog gyfredol ar gyfer Arolygwyr Ei Mawrhydi (Gradd 6) yw £54,500 - £66,800. |
![]() |
Lleoliad |
Mae ein prif swyddfa yng Nghaerdydd ac mae gennym swyddfa arall yn yr Wyddgrug, yng ngogledd Cymru. Bydd arolygwyr wedi’u lleoli yn un o’r swyddfeydd hyn, lle darperir digon o leoedd parcio. Ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus, gallech fod yn gymwys i wneud cais am gael gweithio gartref. Estyn fydd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â lleoliad, ar sail anghenion lleoli. Efallai y bydd yn ofynnol i chi weithio yn y naill swyddfa neu’r llall yn ystod cyfnod eich gwasanaeth ac efallai y bydd yn ofynnol i chi weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol, yn dibynnu ar y ddarpariaeth neu’r gwasanaeth sy’n cael ei (h)arolygu. Mae’r rôl yn gofyn am deithio ac aros dros nos cryn dipyn. Felly, dylai fod gan ymgeiswyr drwydded yrru gyfredol a’r gallu i ddefnyddio car hefyd. Telir costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chyfraddau Estyn. Gallwn ystyried cymorth ariannol ar gyfer adleoli. |
Sut i wneud cais
Rhaid gwneud ceisiadau trwy ddefnyddio ein Ffurflen Gais. A fyddech gystal â chyfeirio at y Ddogfen Arweiniad cyn llenwi’r ffurflen gais. Mae’r Ffurflen Gais a’r Ddogfen Arweiniad ar gael i’w lawrlwytho isod.
Ni allwn ystyried ffurflenni cais sy’n hwyr neu’n anghyflawn. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y ffurflen gais yn cael ei llenwi’n llawn ac yn gywir.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 15 Chwefror 2010. Ni ellir ystyried ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a’r amser hwnnw, am ba bynnag reswm.
Dylid dychwelyd eich cais a’ch dogfennau cysylltiedig dros yr e-bost i AdnoddauDynol@estyn.gov.uk neu ar ffurf copi caled i:
Estyn
Adnoddau Dynol
Llys Angor
Heol Keen
CAERDYDD
CF24 5JW
Ymholiadau Pellach
Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â’r ymarfer recriwtio hwn, cysylltwch ag Adnoddau Dynol, ar 029 2044 6337 neu dros yr e-bost at: AdnoddauDynol@estyn.gov.uk.
Amserlen
Dyddiad cau – dydd Llun, 15 Chwefror 2010
Didoli cychwynnol – Wythnos yn dechrau 1 Mawrth 2010
Asesiadau – dydd Mercher, 10 Mawrth 2010
Rhestr fer – Wythnos yn dechrau 15 Mawrth 2010
Cyfweliadau – dydd Llun, 22 a dydd Gwener, 26 Mawrth 2010
Ffurflen gais a mwy o wybodaeth
|
Cliciwch ar y dogfennau atodedig i gael gwybod mwy a gwned cais am swyddi Arolygwyr Ei Mawrhydi (AEM). |




